P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl casglu 56 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ardal Castell-nedd Port Talbot, a hynny ar unwaith. Mae angen newidiadau brys er mwyn adolygu'r canllawiau ar gyfer ardaloedd gwledig, yn benodol ynghylch Adfywio Cymoedd Cymru. Fel trigolion lleol, nid ydym yn teimlo bod digon o fesurau ar waith i gadw ein cymunedau rhag datblygiadau masnachol negyddol sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar ardaloedd preswyl. Mae angen newid i orfodi polisïau Teithio Llesol, diogelu anheddau preswyl a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer ein cymuned ym Mlaengwrach yn y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnwn i gamau gael eu cymryd yn gynt na'r adolygiad a drefnwyd ar gyfer 2020. Gofynnwn am y cyfle, o leiaf, i allu ychwanegu eithriadau a chanllawiau i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch datblygiadau sy'n arwain at gryn lawer o draffig, megis gorsafoedd petrol a bwytai min ffordd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Castell-nedd
· Gorllewin De Cymru